Y gefnogaeth, hyfforddiant a’r offer a medrau rydych eu hangen, i’ch helpu i reoli a chyd-drafod contractau’n effeithiol.

Mae contractio masnachol yn cwmpasu deall contract yn ei gyd-destun masnachol yn ei gyfanrwydd, a thrwy gydol y cylch oes contractio – o ddatblygu’r cynnyrch neu wasanaeth, hyd at arwyddo’r contract, cyflawni a chwblhau. Gallwn ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant, ac offer a medrau ar gyfer eich busnes, a fydd o gymorth i chi wrth gyd-drafod telerau contract addas, a rheoli risgiau cytundebol drwy gydol y cylch oes contractio, a hynny drwy gyfrwng ein fframwaith pum cam syml.

CAM UN

CYSYNIADU

Cyflwyno cynnyrch neu wasanaeth i’r farchnad. Yr allwedd i fasnacheiddio cynnyrch neu wasanaeth yn llwyddiannus yw, deall y cynnyrch a’i farchnad.

CAM DAU

ENNILL CONTRACTAU

Datblygu’ch achos busnes, deall anghenion eich cwsmeriaid, creu cynigiadau a pharatoi ar gyfer cyd-drafodaethau.

CAM TRI

GWNEUD CONTRACTAU

Cyd-drafod a sefydlu telerau ac amodau’r Contract.

CAM PEDWAR

GWEITHREDU A CHYFLAWNI

Rheoli perfformiad, risg a chyflawniad  y contract.

CAM PUMP

GORFFENNU CONTRACT

Rheoli cwblhau ac ymrwymiadau parhaus.

Ein bwriad yw cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyd-drafod, ennill, a rheoli contractau’n effeithiol.

Mae gan fusnesau mwy o faint, yn aml, Arbenigwr Contractau a Rheolwyr Masnachol mewnol, neu Gyngor mewnol, sy’n gallu helpu ȃ’r rheolaeth fasnachol a’r broses gontractio. Mae busnesau llai a busnesau sy’n datblygu, yn aml yn cael eu cyfyngu gan ddiffyg adnoddau a mynediad at gymorth arbenigol.

Gallwn fod o gymorth o ran pontio’r bwlch hwn, drwy ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau Masnachol a Chontract, a’r cyfan wedi’i deilwra ar gyfer busnesau llai eu maint, er mwyn eich helpu i ddatblygu’ch arbenigedd mewnol eich hun. Fe’ch helpwn i adnabod, nodi a rheoli risgiau contract cyffredin yn fwy effeithiol, a lleihau gwariant allanol ar arbenigwyr.

Ein Mewnwelediadau