Rydym yma i’ch helpu chi i lywio’ch hunan drwy brosesau masnachol a chontractio cymhleth.

Fe gyflwynir Medrau Masnachol i chi gan Emma a Rhian, partneriaeth Norwyeg-Gymreig sydd ȃ phrofiad cyfunol o dros 25 mlynedd ym myd rheolaeth fasnachol a chontract.

Gyda’n gilydd, ein bwriad yw grymuso entrepreneuriaid, a busnesau bach a chanolig eu maint, i ddatblygu eu harbenigedd mewnol eu hunain, a hynny drwy ddarparu hyfforddiant ac adnoddau masnachol a chontract, wedi’i deilwra’n arbennig ar eu cyfer.

Mae Emma Blake wedi’i lleoli yn Ålesund, Norwy ac mae hi’n gyfreithydd sydd wedi cymhwyso fel cyfreithydd Saesnig, yn ogystal ȃ bod wedi cymhwyso fel Advokat Norwyaidd. Mae ganddi brofiad sylweddol yn y diwydiant, a hynny yn y sectorau morol ac eraill. Mae Emma’n arbenigo mewn cynghori ar hawliau Eiddo Deallusol a Rheolaeth Contract Masnachol, gan gyfuno gwybodaeth gyfreithiol ȃ phrofiad yn y diwydiant er mwyn darparu cyngor ymarferol mewn cyd-destun masnachol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys, nid yn unig drafftio a chyd-drafod Contractau, ond hefyd, datblygu offer a medrau, a phrosesau Rheolaeth Contract er mwyn helpu i reoli risg masnachol.

Mae Dr Rhian Thomas yn Ymgynghorydd Busnes sy’n arbenigo mewn Rheolaeth Fasnachol a Chontract – gan gynnwys Strategaeth, Gwerthusiad Risg, Rheoli Cynigiad Rheoli Cais (gan gynnwys. Datblygiad Achos Busnes a thendro), Rheoli Cyd-drafodaethau a Phrosiect. Mae Rhian yn dal Swyddi Cyfarwyddwr Anweithredol yn y sectorau Gofal Iechyd ac Ariannol, ac mae hi’n Uwch-ddarlithydd mewn Strategaeth a Rheolaeth. Yn siaradwr Cymraeg, mae Rhian wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, ac yn gweithio drwy’r Saesneg a’r Gymraeg.

Rydym yma i helpu’ch busnes i dyfu a ffynnu

Rydym yma i’ch helpu chi i lywio’ch hun drwy’r bydoedd Masnachol a Chontractio, boed hynny drwy baratoi ac adolygu dogfennaeth, darparu gwasanaethau ymgynghori neu gynnig hyfforddiant. Rydym yn teilwra’n gwaith i’ch busnes a’ch anghenion chi. Drwy ddod i ddeall, yn y lle cyntaf, beth rydych chi’n ei gynnig i’r farchnad, yn ogystal ȃ’ch strategaeth, gallwn ddarparu prosesau a hyfforddiant sy’n fwy effeithiol. Ein nod yw galluogi’ch busnes i dyfu, drwy roi’r gefnogaeth rydych chi ei hangen i chi, mewn modd fforddiadwy.

Our goal is to enable your business to grow by giving you the support you need in an affordable way.

MEWNWELEDIADAU