cam pedwar

GWEITHREDU A CHYFLAWNI CONTRACT

Mae’r rhan hon o gylch oes contractio’n ffocysu ar wir berfformiad y contract. Dim ond cyfnod cyntaf y contract yw’r arwyddo, y dasg nawr yw sicrhau bod y rhwymedigaethau contract yn cael eu cwblhau a bod y cynnyrch a’r gwasanaethau’n cael eu cyflawni a’u darparu.
Offer a Medrau, a Phrosesau

Gallwn eich helpu i ddylunio a gweithredu offer a medrau, a phrosesau a fydd o gymorth wrth reoli a sicrhau perfformiad y Contract. Gallwn fod o gymorth wrth reoli’r llif oblygiadau a chyfrifoldebau, o ran rhwymedigaethau a chyfathrebiadau, ȃ rhanddeiliaid allweddol. Mae hyn yn cynnwys rheoli Cadwyn Gyflenwi a materion datblygu a masnachu, yn ogystal ȃ sicrhau bod yr ymgeisio ar gyfer trwyddedau ac awdurdodiadau gofynnol wedi’i wneud mewn amser, a bod y materion swyddogol o ran cyflawni wedi’u trefnu. Mae sicrhau cyflawni Contract yn effeithiol yn golygu adnabod, nodi a rheoli’r risgiau a nodwyd yn flaenorol, a hynny yn rheolaidd, yn ogystal ȃ sicrhau bod cerrig milltir o ran taliadau a chyflawniadau yn cael eu cyrraedd.

Mae gweithredu Contract yn cynnwys, nid yn unig gofalu am y rhanddeiliaid o fewn y cwmni, ond hefyd y berthynas sy’n barhaus rhwng y cwsmer a’r Gadwyn Gyflenwi.

Gallwn gynnig cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor yn y meysydd allweddol isod…

Llif Goblygiadau a Chyfrifoldebau

Llif goblygiadau a chyfrifoldebau’r Contract a gofalu am randdeiliad mewnol

Risg

Offer a medrau adolygu Rheoli Risg

Ansawdd

Rheoli Ansawdd

Cyflenwi

Rheoli Cadwyn Gyflenwi

Metrigau

Rheoli Perfformiad gan gynnwys offer a medrau, a thempledi ar gyfer DPAau a Metrigau

Cwsmeriaid

Gofalu am y Cwsmer, rheoli newid archeb a diwygiadau

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Cofrestrwch isod a chewch ddiweddariadau, newyddion, ac awgrymiadau a chynghorion defnyddiol yngyhylch popeth i’w wneud ȃ chontractio masnachol.

Ein Mewnwelediadau