EIN GWASANAETHAU
YR HYN RYDYM YN EI GYNNIG
Paratoi Dogfen ac Adolygiad Contractio
Gallwn helpu ȃ drafftio neu adolygu ystod o ddogfennau contractio gan gynnwys cyflwyniadau cais, telerau ac amodau contract, a dogfennau contract eraill megis newid archebion, amrywiadau o ran cytundeb, a chytundebau setliad.
Gwasanaethau Ymgynghori a Phrosesau Masnachol
Rydym hefyd ar gael i gefnogi mudiadau ȃ gweithgarwch dydd-i-ddydd, a strategaeth fasnachol a Rheolaeth contract, boed hynny’n mynd ati i greu achosion busnes, fformiwleiddio strategaethau cyd-drafod, neu ddatblygu offer a medrau, a phrosesau rheolaeth contract. Gallwn gefnogi’ch mudiad drwy gyfrwng cyngor, offer a medrau, a thempledi ar gyfer pob un o’r 5 cam contractio, er mwyn sefydlu’n gadarn, a datblygu, Rheolaeth Fasnachol a Chontract o’r radd flaenaf.
Cyrsiau Hyfforddi
Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi a seminarau ar ystod o bynciau Rheolaeth Fasnachol a Chontract, gan gynnwys Ymwybyddiaeth Fasnachol, Rheolaeth Risg Contract, Strategaeth a Rheolaeth Cais (Strategaeth Werthu, Ysgrifennu Cynlluniau Busnes, Drafftio Cynigiadau, Diogelu a Rheoli Eiddo Deallusol, Sgiliau Cyd-drafod, yn ogystal ȃ hyfforddiant ar faterion contract megis Cyfrinachedd, Atebolrwydd am Gynnyrch, Cyflawni’n Hwyr a Diweddu.