INSIGHTS

Beth a phwy yw Medrau Masnachol? Ein hamcanion a’n gwerthoedd

29 October 2021

|

Conceptualisation

Crëwyd Medrau Masnachol gan Emma Blake a Rhian Thomas – dau arbenigwr Rheolaeth Fasnachol a Chontract; bu i’r ddwy gyfarfod pan oeddent yn gweithio i gwmni byd-eang FTSE100, cyn iddynt ddod yn ymgynghorwyr annibynnol.

Wedi’i leoli yn Norwy (Emma) a Chymru (Rhian), mae Medrau Masnachol yn dod ȃ’r ddwy ynghyd i gynnig portffolio cynhwysfawr o gefnogaeth Rheolaeth Fasnachol a Chontract – boed hynny ar ffurf ymgynghori, creu a datblygu deunyddiau a medrau, templedi, prosesau ac/neu hyfforddiant Rheolaeth Fasnachol a Chontract.

Ein bwriad yw cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint i ddatblygu’r sgiliausydd eu hangen er mwyn cyd-drafod, ennill, a rheoli contractau’n effeithiol. Er bod ein cefndiroedd ein hunain wedi’u gwreiddio mewn gweithgynhyrchu (Morol ac Awyrofod), mae’n gwasanaethau’n berthnasol i fudiadau o bob math – traddodiadol, newydd-sy’n-dod-i’r-amlwg, a chreadigol – dydyn ni ddim yn gweithio a gweithredu mewn un diwydiant yn unig – rydym yn edrych am, ac yn cynnig, amrywiaeth ac ystod, yn, ac i’n, cleientiaid. Fel entrepreneuriaid, rydyn ni’n wirioneddol ddeall y sialensau sy’n wynebu busnesau bach, ac mae gennym brofiad o weithio gyda busnesau newydd, cwmnïau trosglwyddo technoleg a chyda BBaChau sydd yn eu cyfnod twf.

Rydym yn deall bod gan fudiadau mwy eu maint, Arbenigwr Contractau a Rheolwyr Masnachol mewnol, neu Gyngor mewnol, sy’n gallu cynorthwyo gyda’r broses gontractio. Does gan fusnesau llai, ar y llaw arall, ddim mo’r adnoddau ariannol na mewnol, o reidrwydd, i ddatblygu arbenigaeth fasnachol a chontractio. Ein hamcan yw cau’r bwlch hwn, drwy ddarparu hyfforddiant masnachol a chontract, medrau, ac adnoddau i fusnesau bach – a’r cyfan mewn modd agos-atoch, i roi cymorth iddynt ddatblygu’u harbenigedd a’u prosesau mewnol eu hunain. Drwy wneud hyn, rydym yn galluogi BBaChau i adnabod, nodi a rheoli risgiau’n ymwneud ȃ chontractio, ac i gyd-drafod contractau’n fwy effeithiol. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac agos-atoch, mewn iaith hawdd i’w deall (boed hynny yn y Saesneg, y Gymraeg neu’r Norwyeg!).