cam dau

ENNILL CONTRACTAU

Gallwn helpu’ch busnes i werthuso cyfleodd ennill contract, gan archwilio dichonoldeb ac adnabod a nodi amlygiad risg, er mwyn eich helpu, yn y pen draw, i benderfynu a yw’r cyfle’n un sydd werth mynd ar ei ôl. Gallwn eich helpu gydag ysgrifennu cais ac offer a medrau gwerthuso cais, a bydd hyn yn eich helpu i ymateb i’r cwsmer, ac adnabod a nodi datrysiadau amgen.
Rheoli Cais

Cyn y cam o gyd-drafod a llofnodi contract, mae rheolaeth cais da yn gofyn am, ddadansoddiad ariannol, mynd ati i nodi a gwerthuso beth sy’n dderbyniol o ran risg, ac ymgysylltu ȃ rhanddeiliad. Gallwn roi cefnogaeth a darparu offer a medrau ar gyfer fformiwleiddio achosion busnes (gan gynnwys costio a phrisio), rheoli risg, pennu ar egwyddorion masnachol a datblygu cynigiad.

Yr allwedd i gyd-drafod llwyddiannus
Yr allwedd i gyd-drafod llwyddiannus, yw’r paratoi. Yn ogystal ȃ’ch cefnogi yn y broses gyd-drafod, gallwn helpu’ch busnes, hefyd, i ddatblygu egwyddorion contractio a fydd yn darparu’r fframwaith ar gyfer cyd-drafod, datblygu strategaethau cyd-drafod ac adnabod a nodi sefyllfaoedd contractio derbyniol a phrif risgiau. Gallwn hefyd eich helpu i benderfynu pwy sydd angen bod yn rhan o’r prosesau cyd-drafod, cymeradwyo a gwneud penderfyniadau.
Gallwn ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor yn y meysydd allweddol canlynol…

Deall

Adnabod eich cwsmer a deall y fframwaith cydymffurfio a rheoleiddio

Ysgrifennu Dogfennau

Boed yn Achos Busnes, Cais neu Gynigiad – gallwn eich helpu i greu dogfen lwyddiannus

Rheoli Risg

Adnabod, nodi a rheoli Risg Cytundebol a Masnachol

Caffael

Rheoli’r prosesau caffael a chais

Cyd-drafod

Paratoi ar gyfer cyd-drafodaethau Contract, datblygu strategaeth cyd-drafod a diffinio egwyddorion y Contract

Telerau ac Amodau

Datblygu a deall Telerau ac Amodau ar gyfer cyflawniadau B2B a B2C (Busnes i Fusnes a Busnes i Ddefnyddiwr), a chynnyrch a gwasanaethau safonol ac wrth fesur

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Cofrestrwch isod a chewch ddiweddariadau, newyddion, ac awgrymiadau a chynghorion defnyddiol yngyhylch popeth i’w wneud ȃ chontractio masnachol.

Ein Mewnwelediadau