CAM TRI

GWNEUD CONTRACT

Mae’r cam – egwyddorion contract – yn ffocysu ar bennu ar y telerau contract. Mewn proses gais hirfaith, gall fod yn anodd pennu ar ba bwynt y gwnaethpwyd y contract, a pha ddogfennau contract sy’n berthnasol. Gallwn eich helpu i ddeall a rheoli’r broses o wneud contract, yn well.
Gallai hyn gynnwys rheoli dogfennau cais, cadarnhau archebion, a derbyn telerau safonol, yn ogystal ȃ lleihau’r risg y bydd gwarantau neu gynrychiolaethau eraill yn cael eu corffori i mewn i’r contract, yn ystod y broses werthu neu o ganlyniad i arfer y diwydiant.
Deall Telerau Contract
Rydym hefyd yn ffocysu ar ba delerau contract ddylai gael eu defnyddio, a ph’run ai yw telerau safonol yn cynnig sicrwydd digonol. Gallwn ddarparu hyfforddiant ar elfennau contract allweddol, beth y maent yn eu golygu a beth yw’r risgiau o ran eu derbyn. Gallwn hefyd fod o gymorth wrth ddrafftio telerau safonol contractau. Rydym yn ffocysu nid yn unig ar ddeall y geiriau ar y ddalen, ond hefyd ar ddeall effaith masnachol y cymalau a darpariaethau.
Gallwn ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor yn y meysydd allweddol canlynol…

Ffurfio

Ffurfio’r Contract, y cynnig a’r derbyn. Telerau pwy sy’n berthnasol?

Telerau

Termau Safonol y Diwydiant yn erbyn contractio ar Delerau’r Cwsmer

Dogfennau

Memoranda o Gyd-ddealltwriaeth a Llythyrau o Fwriad

Risg

Adnabod, nodi a rheoli Risgiau Contract

Telerau

Deall Telerau Contract penodol

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Cofrestrwch isod a chewch ddiweddariadau, newyddion, ac awgrymiadau a chynghorion defnyddiol yngyhylch popeth i’w wneud ȃ chontractio masnachol.

Ein Mewnwelediadau