CAM UN
CYSYNIADU
Deall yr hyn rydych yn ei gynnig mewn cyd-destun masnachol.
Sut mae’r cynnyrch wedi cael ei ddatblygu? Y mha ffordd y mae’n wahanol i’r rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn?
Fe fyddwch angen gweithio ȃ rhanddeiliaid i ddeall pa adnoddau sy’n angenrheidiol, pa gadwyn gyflenwi sy’n cael ei heffeithio ac yn rhan o hyn, ac yn bwysicaf oll, sut y mae’r hyn rydych chi’n ei gynnig wedi cael ei brisio.
Byddwch hefyd angen deall sut mae’r contract yn cyd-fynd ȃ’r strategaeth fusnes yn ei gyfanrwydd, pwysigrwydd strategaethol y cwsmer a’r contract, a’r fframwaith reoleiddio sy’n ymwneud ȃ’r cynnyrch a’r awdurdodiadau.
Deall y farchnad
Mae hwn yn ffactor allweddol, sydd yn siapio cyd-drafodaethau contractio. A yw’r cynnyrch yn gynnyrch sydd eisoes yn sefydledig yn y farchnad, neu’n un newydd? A yw’n gwbl wahanol i’r cynnyrch neu’r gwasanaethau sy’n cystadlu yn ei erbyn?
Dealltwriaeth drwyadl o weithgarwch y sawl sy’n cystadlu yn eich erbyn, ac amodau’r farchnad, fydd yn diffinio natur yr ystafell gyd-drafod, yn y pendraw.
Y Syniad Mawr
Y cam cyntaf yw diffinio a chyflwyno’ch cynnyrch neu wasanaeth (yr hyn rydych yn ei gynnig) a deall beth sy’n ei wneud yn unigryw
Rhyddid
Sicrhau bod gennych chi’r rhyddid i ddatblygu a masnachu eich cynnyrch heb dorri ar Eiddo Deallusol (ED) sy’n bodoli eisoes
Eich Gwarchod Eich Hun
Defnyddio Cytundebau Peidio ȃ Datgelu, marcio a labelu dogfennau, cofrestru ac amddiffyn eich ED
Prisio
Deall sut i brisio’ch cynnyrch a gwasanaethau, modelau prisio, sylfaeni costau a diffinio’ch gorsymiau ac elw
Rhanddeiliaid
Deall a rheoli’ch cadwyn gyflenwi, gweithio ȃ chyrff y diwydiant a rheoleiddwyr gan ddefnyddio cynrychiolwyr
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr
Ein Mewnwelediadau
Ystyriaethau wrth ddrafftio Cynigiad neu Gais
Cynyddu tebygolrwydd cais o lwyddo: rhai ystyriaethau… Y cynigwyr sy’n
Beth a phwy yw Medrau Masnachol? Ein hamcanion a’n gwerthoedd
Crëwyd Medrau Masnachol gan Emma Blake a Rhian Thomas –
Understanding the differences between the UK and Nordic contracting cultures
A country’s legal system, laws and rules of interpretation provide
Understanding the differences between the UK and Nordic contracting cultures
A country’s legal system, laws and rules of interpretation provide