INSIGHTS

Ystyriaethau wrth ddrafftio Cynigiad neu Gais

29 October 2021

|

Winning Contracts

Cynyddu tebygolrwydd cais o lwyddo: rhai ystyriaethau…

Y cynigwyr sy’n cael llwyddiant, yw’r rhai sy’n deall y cyd-destun y tu ôl i’r hyn y gofynnir amdano yn y cynigiad; maent yn gallu deall y cwsmer ac adnabod eu ‘pwyntiau llosg’ – dyma’r materion llosg sy’n berthnasol i’r cwsmer dan sylw (materion strategaethol, gweithredol neu ariannol) a’r hyn sy’n ysgogi’r cwsmer (yr hyn sy’n ysgogi’r cwsmer i weithredu). Mae ymateb yn benodol, yn hytrach na mewn modd generig, i anghenion y cwsmer, yn dangos yr ymwybyddiaeth hon, ac yn creu hyder y byddwch chi’n ddarparwr cydweithredol, ac yn barod i gydweithio’n effeithiol. Mae teilwra’chcynnig fel ei fod yn gweddu i’r cyfle sydd ar gael, yn hytrach na chyflwyno fersiwn copïo/gludo generig o dendr blaenorol, yn hanfodol.

Mae cynnig llwyddiannus, yn un sy’n egluro’r gwerth a’r buddion ychwanegol y byddwch chi’n eu darparu, a hynny’n glir. Mae enghreifftiau o waith blaenorol a phrofiadau o’r gorffennol yn beth pwerus. Mae’n eich galluogi i ddirymu cryfderau’r sawl sy’n cystadlu yn eich erbyn ac ecsbloetio’u gwendidau.

Yn y pendraw, fodd bynnag, y sefydliadau sy’n cael llwyddiant yw’r rhai sy’n arddangos deallusrwydd a dealltwriaeth gadarn wrth bennu, yn ofalus, ba geisiadau maent am fynd amdanynt, gan gadw’u hegni ac adnoddau ar gyfer y cyfleoedd sydd o bwys gwirioneddol. Yn hytrach na bod yn ymarferiad drafftio cais yn unig, mae rheolaeth dda dros gynigiadau a cheisiadau yn cwmpasu dadansoddi arian yn fanwl a deallus, a gallu adnabod a gwerthuso risg posib.

Gall Medrau Masnachol ddarparu cefnogaeth i’ch mudiad – a hynny o ran holl agweddau Rheoli Cais – gan gynnwys gwerthusiad achos busnes, dadansoddi risg, a datblygu ceisiadau a chynigiadau. Cysylltwch ȃ ni am fanylion pellach.