EIN GWASANAETHAU

Datrys Anghydfod

Rydym yn cynnig dau fath o wasanaethau datrys anghydfod amgen – Cyfryngu (Mediation) a Cymrodeddu (Arbitration).

Cyfryngu (Mediation): Masnachol a Gweithle

Mae cyfryngu yn broses wirfoddol, hyblyg a chyfrinachol lle mae cyfryngwr niwtral yn hwyluso setliad neu gyfaddawd rhwng partïon sy’n dadlau.

Yn wahanol i ymgyfreitha, mae cyfryngu’n grymuso’r partïon i reoli’r penderfyniad i setlo a thelerau’r datrysiad. Mae’r cyfryngwr yn arwain y partïon tuag at ddatrysiad sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr, gan nodi materion allweddol, archwilio atebion amgen ac arwain y partïon i dir cyffredin.

Er nad yw’r broses ei hun yn rhwymol, gellir cynnwys unrhyw gytundeb mewn cytundeb setlo neu gynllun gweithredu, gan sicrhau datrysiad dibynadwy a boddhaol i bawb dan sylw.

Cymrodeddu (Arbitration)

Mae cymrodeddu yn broses ffurfiol, orfodol lle mae trydydd parti niwtral (y cymrodeddwr) yn datrys yr anghydfod.

Mae cymrodeddu yn cynnig cyflymder a chost-effeithiolrwydd o gymharu ag ymgyfreitha traddodiadol.

Mae gan bartïon y rhyddid i ddewis cymrodeddwr ag arbenigedd penodol sy’n berthnasol i’w hanghydfod, gan sicrhau penderfyniad gwybodus a theg.

Mae penderfyniad y cymrodeddwr yn seiliedig ar gyfreithiau cymwys, mae’n rhwymol, ac fel arfer nid yw’n destun apêl.

Darperir ein Gwasanaethau Cyfryngu a Chymrodeddu yn rhithwir ac wyneb yn wyneb.
Emma Blake and Rhian Thomas

Rydym yn darparu'r cyngor, yr arbenigedd a'r adnoddau sydd eu hangen i lywio, datrys a rheoli anghydfodau yn effeithiol, trwy Gyfryngu (Masnachol a Gweithle) a Chymrodeddu.

Gall dewis y dull cywir o ddatrys anghydfod wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae ein gwasanaeth cyfryngu yn cynorthwyo partïon i ddod i ddatrysiad cyfrinachol, gan osgoi costau a baich ymgyfreitha tra bod cymrodeddu yn broses sy’n cynnwys penderfyniadau rhwymol y gellir eu gorfodi. P’un ai yw’ch mater yn ymwneud â’r gweithle, yn fasnachol neu’n dechnegol, mae Rhian (Cyfryngwr Masnachol a Gweithle achrededig) ac Emma (Cyfreithiwr a Chymrodeddwr) yma i’ch cefnogi.