INSIGHTS

Deall y gwahaniaethau rhwng diwylliannau contractio’r DU a’r Gwledydd Nordig

29 October 2021

|

Uncategorized @cy

Mae system gyfreithiol, cyfreithiau a rheolau dehongli gwlad yn darparu’r fframwaith ar gyfer negodi ac, yn y pen draw, yn pennu cynnwys a ffurf y ddogfen gontract. Fodd bynnag, mae iaith a diwylliant contractio hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth lunio’r contract terfynol.

Ar ôl gweithio i gwmni ym mherchnogaeth y DU a oedd yn gweithredu yn Norwy, mae Rhian a minnau wedi profi’n uniongyrchol yr heriau o egluro diwylliant contractio’r DU a chontractio o dan gyfraith Lloegr i’n cydweithwyr Nordig. Dyma’r un heriau ag y mae llawer o gwmnïau Nordig llai yn eu hwynebu wrth allforio i’r DU neu wrth gontractio o dan gyfraith Lloegr am y tro cyntaf. Mae derbyn contract hir a chymhleth sy’n fwy na 4 tudalen o hyd yn aml yn codi amheuaeth a dryswch. “Ro’n i’n meddwl bod y negodi’n mynd yn dda, ond maen nhw wedi anfon hwn ataf…” “Maen nhw wedi anfon dogfen 16 tudalen ataf – dydyn nhw ddim yn ymddiried ynof i”, neu hyd yn oed – “Ydyn nhw’n ceisio fy nhwyllo i?”

Un o’r prif resymau pam y bydd contract o dan gyfraith Lloegr yn hirach ac yn fwy cymhleth yw’r systemau cyfreithiol gwahanol iawn sydd gan y ddwy wlad. Mae gan Norwy system gyfreithiol sy’n seiliedig ar gyfraith sifil, lle mae prif gorff y gyfraith wedi’i ymgorffori mewn darpariaethau statudol. Mae’n haws cyfeirio at egwyddorion cyffredinol a nodir mewn cyfraith gefndir wedi’i chodeiddio na gorfod dod o hyd i’r gyfraith achosion gywir i helpu i ddehongli union eiriad cymal cytundebol.

Yn ail, mae’r rheolau dehongli contractau yn Norwy yn golygu ei bod yn bosibl dibynnu ar ddogfennau eraill fel contractau blaenorol, cytundebau drafft, gohebiaeth a nodiadau cyfarfodydd i helpu i ddehongli cymalau contract.

Mae iaith a diwylliant busnes hefyd yn llunio arddull contractio fwy cryno ac eglur Norwy. Mae gan Norwy boblogaeth o 5.4 miliwn o bobl, iaith lawer llai geiriog a diwylliant busnes enwog o anhierarchaidd. O ystyried y boblogaeth gymharol fach a’r ffaith bod diwydiannau wedi’u crynhoi mewn clystyrau daearyddol a diwydiannol, mae’r rhan fwyaf o berthnasoedd contractio yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chydweithrediad. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r partïon yn adnabod ei gilydd yn dda neu mae ganddynt berthynas sy’n bodoli eisoes.

Nid yw’n syndod felly ei bod yn gyffredin clywed straeon am gontractau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer llongau yn cael eu hysgrifennu ar gefn napcynau ar anterth y ffyniant alltraeth. Y telerau hanfodol oedd y math o long, y pris, y telerau talu a’r dyddiad cyflenwi. Roedd gweddill y contract a’r manylion ymarferol yn cael eu gadael i’r partïon eu datrys ar sail contractau blaenorol a darpariaethau’r gyfraith gefndir. Mae’r dull hwn hefyd i’w weld yn y diwylliant contractio heddiw, lle mae contract sy’n hirach na 4 tudalen yn aml yn cael ei ystyried yn ‘ormodol’.

Cymharwch hyn â diwylliant contractio’r DU. Mae cyfraith Lloegr yn seiliedig ar system y gyfraith gyffredin, sy’n dibynnu ar gyfraith achosion i sefydlu sut mae cymalau a darpariaethau’n cael eu dehongli. Felly, mae’r pwyslais ar union eiriad cymalau yn hytrach na’u hystyr cyffredinol. Mae’r rheolau dehongli yn cynnwys rhagdybiaeth bod y ddogfen gontract yn cynnwys y cytundeb cyfan rhwng y partïon a, dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn, y gellir defnyddio dogfennau eraill i egluro telerau’r contract. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bopeth gael ei ysgrifennu a’i gytuno yn y ddogfen gontract ei hun.

Fel y bydd unrhyw un sy’n siarad Saesneg fel ail iaith yn cytuno, mae’r iaith Saesneg yn llawer mwy gorliwgar a geiriog – “pam defnyddio un gair pan allwch chi ddefnyddio deg”. Gallwch glywed enghraifft o hyn mewn unrhyw ffreutur lle mae cydweithwyr o’r DU yn bresennol, e.e. yn Norwyeg, “send saltet” (“pasiwch yr halen”) yw “Would you be so kind as to pass the salt”. Mae Norwyeg yn iaith sy’n glir, yn uniongyrchol ac yn mynd yn syth at y pwynt. Mae poblogaeth fwy y DU, o bron i 68 miliwn o bobl, a’i diwydiannau gwasgaredig yn ddaearyddol yn golygu ei bod yn llawer llai tebygol y bydd gan ddau barti yn y DU berthynas neu hanes mor sefydledig.

Mae hyn oll yn golygu bod unrhyw gontract o dan gyfraith Lloegr yn debygol o fod yn fwy cynhwysfawr nag un sy’n cael ei lywodraethu gan gyfraith Norwy. Mae’n gwbl arferol i gontract syml o dan gyfraith Lloegr fod yn 12 tudalen neu fwy. Mae’r gêm “dod o hyd i’r coma” yn un gyfarwydd. Yn fyr, gall contractau o dan gyfraith Lloegr fod yn hunllef i bartïon nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Felly, os yw’ch cymar yn y DU yn anfon contract hir a chymhleth o dan gyfraith Lloegr atoch, peidiwch â digalonni na mynd yn amheus. Maen nhw wir eisiau gwneud busnes gyda chi ac (yn y rhan fwyaf o achosion o leiaf) does dim cymhellion cudd. Dim ond diwylliant contractio’r DU yw e.