INSIGHTS

Beth yw rheolwr masnachol?

29 October 2021

|

Implementation & Delivery

Yn aml, mae’n anodd diffinio a disgrifio rôl rheolwr masnachol, gan y bydd natur y rôl a’i lle yn y sefydliad yn dibynnu ar faint ac aeddfedrwydd pob sefydliad. O ran cymhwysedd, fel arfer bydd gan reolwr masnachol gefndir ym maes cyllid neu’r gyfraith, ond gall hefyd fod yn rhywun sydd â sawl blwyddyn o brofiad o negodi contractau neu werthu.

Mae rolau rheolwr contractau, rheolwr prosiect, rheolwr gwerthu, rheolwr ariannol neu gyfreithiwr mewnol wedi’u sefydlu ac yn cael eu deall yn dda, ond nid felly rôl rheolwr masnachol. O ran ceisio’i disgrifio, yr ateb yw ei bod yn aml yn gyfuniad o’r cyfan uchod.

Ar ôl siarad â nifer o reolwyr masnachol mewn gwahanol sefydliadau, dyma rai o’r disgrifiadau rydyn ni wedi’u clywed:

“Y gwahaniaeth rhwng cyfreithiwr a rheolwr masnachol yw, pan ofynnir i gyfreithiwr edrych ar gontract, y bydd yn agor y ddogfen ac yn dechrau darllen. Bydd rheolwr masnachol yn codi’r ffôn ac yn siarad â’r timau cyllid, gwerthu a rhanddeiliaid eraill yn gyntaf er mwyn deall y fargen, cyn hyd yn oed agor y ddogfen.”

Er mwyn adolygu, drafftio neu negodi contract yn iawn, mae angen i chi ddeall ei gyd-destun masnachol a’r risgiau cytundebol y mae’n eu creu i’r busnes. Mae hyn yn golygu deall y cynnyrch neu’r gwasanaeth a’i farchnad, yn ogystal â phwysigrwydd y cwsmer a’r contract o safbwynt strategol. O safbwynt mwy ymarferol, mae angen i chi ddeall maint yr elw, llif arian a’r risgiau rheoli prosiect. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i reolwr masnachol fod yn arbenigwr ar y cynnyrch, yn gyfreithiwr, yn gyfrifydd, yn arbenigwr cydymffurfio neu’n rheolwr gweithrediadau. Fel y mae rheolwr masnachol arall yn ei ddisgrifio:

“Nid yw’n ymwneud â bod yn arbenigwr ym mhob maes, ond â gwybod digon am bob un o’r meysydd hyn i allu gofyn y cwestiynau cywir er mwyn sicrhau bod y busnes yn deall y fargen arfaethedig. Mae’n ymwneud â gallu adnabod pryd mae angen help arbenigol arnoch, neu pryd i godi problem bosibl gyda’r tîm rheoli.”

Nid yw’n syndod, felly, fod y rhan fwyaf o reolwyr masnachol yn dda am adeiladu rhwydweithiau, ac yn gallu datblygu perthnasoedd da â’r timau cyllid, datblygu, gweithrediadau a gwerthu. Maen nhw’n deall gwleidyddiaeth sefydliad a sut i gael pethau wedi’u gwneud. Yn aml, mae’r rôl yn cael ei hystyried fel pry cop yn eistedd yng nghanol gwe. Os oes angen darn o wybodaeth arnoch, mae rheolwr masnachol yn aml yn berson da i’w holi. Os nad ydyn nhw’n gwybod yr ateb, byddan nhw’n gwybod ble i ddod o hyd iddo ac, yn bwysicach fyth, pwy i’w holi.

Yn aml, disgrifir rôl rheolwr masnachol fel cydwybod y busnes, neu’r gwiriad synnwyr olaf – rhywun sy’n gallu gofyn y cwestiwn eithaf: a ddylen ni fod yn ymrwymo i’r fargen hon?