INSIGHTS

Atebolrwydd – Gwybod Ble Mae’r Risgiau

10 July 2026

|

Uncategorized @cy

Gall cymalau atebolrwydd wneud neu dorri contract.

Gall cytundebau aros yn eu hunfan am wythnosau pan fo’r ddwy ochr yn rhy nerfus i symud ar y pwynt hwn. Does dim syndod – atebolrwydd yw un o’r meysydd mwyaf sensitif mewn unrhyw gytundeb masnachol. Mae’n ymwneud â risg, cyfrifoldeb ac, yn y pen draw, ymddiriedaeth.

Nid yw pob atebolrwydd yr un fath. Ni ellir byth eithrio rhai risgiau, fel anaf personol neu dwyll. Gellir cyfyngu, rhannu neu osod terfyn ar eraill, gan ddibynnu ar y cyd-destun. Mae’r cydbwysedd yn dibynnu ar ddeall natur yr hyn sy’n cael ei gyflenwi, sut y caiff ei ddefnyddio a beth sydd yn y fantol os aiff rhywbeth o’i le.

Mae’r negodi’n ymwneud â chysoni realiti masnachol â thegwch. Gwthiwch yn rhy galed i un cyfeiriad a byddwch yn codi ofn ar gyflenwyr. Gwthiwch yn rhy galed i’r cyfeiriad arall, ac rydych yn agor eich busnes i risgiau na ddylai fod yn eu cario.

Dyna pam y dylid ymdrin ag atebolrwydd nid fel brwydr, ond fel sgwrs. Mae gan y ddau barti fuddiannau dilys i’w diogelu – ac o’u trin yn dda, gall cymalau atebolrwydd fod yn sylfaen i berthnasoedd cryfach a mwy hirdymor.

Gadewch i ni siarad ymhellach: www.thecommercialtoolkit.com/contact-us