Mae contractio masnachol yn golygu deall contract yn ei gyd-destun masnachol cyfan. Gall dogfen gontract fod wedi’i drafftio’n berffaith o safbwynt cyfreithiol, ond os nad yw’n adlewyrchu’r fargen fasnachol gyffredinol na’r berthynas wirioneddol rhwng y partïon, gall hynny gael canlyniadau i’r busnes. Contractio masnachol yw’r broses o sicrhau bod y ddogfen yn adlewyrchu’r fargen, yn ogystal â deall a rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r contract.
Mae contractio masnachol yn dechrau ar ddechrau cylch oes y contract – deall y cynnyrch neu’r gwasanaeth a’r farchnad y caiff ei werthu iddi. Dyma’r ffactorau allweddol a fydd yn llunio’r contract a’r negodi arno.
Yn gyntaf, o ran y cynnyrch ei hun, mae’n bwysig deall nodweddion technegol allweddol y cynnyrch neu’r gwasanaeth, yn ogystal â gwerth yr eiddo deallusol sydd ynddo. A yw’n cynnwys eiddo deallusol nodedig sy’n ei wahaniaethu oddi wrth gystadleuwyr, ac a yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y pris?
Bydd deall sut y datblygwyd y cynnyrch neu’r gwasanaeth hefyd yn dylanwadu ar y negodi ynghylch y pris a’r telerau talu. Os yw’r cynnyrch neu’r gwasanaeth newydd ei ddatblygu, beth yw’r costau datblygu, ac i ba raddau y gellir eu hadennill? Os yw’r cynnyrch neu’r gwasanaeth yn cael ei ddatblygu’n bwrpasol, beth yw’r costau datblygu tebygol wrth symud ymlaen? Bydd y ffactorau hyn, ynghyd â dealltwriaeth o’r gadwyn gyflenwi, yn galluogi’r busnes i negodi telerau talu sy’n rheoli costau datblygu ac yn lleihau risgiau llif arian.
Bydd deall maint yr elw, gorbenion a threuliau, ynghyd â chostau unrhyw drwyddedau, yswiriant, tystysgrifau diogelwch a chostau cludo, yn galluogi busnesau i bennu paramedrau’r negodi ar gyfer trafodaethau am bris y contract.
Yn olaf, bydd deall sut y bydd y cynnyrch neu’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn helpu i adnabod risgiau cytundebol sy’n ymwneud â gwarant ac atebolrwydd.
Gall deall cylch oes y cynnyrch, tebygolrwydd hawliadau a’u cost debygol helpu’r busnes i gyfrifo darpariaethau gwarant posibl i’w cynnwys ym mhris y contract. O ran atebolrwydd, gall adnabod y senario waethaf fod o gymorth wrth negodi cymalau atebolrwydd i liniaru’r risgiau. Beth allai fynd o’i le, a beth yw’r difrod tebygol? Oes gennym ni yswiriant i dalu am y risgiau hyn? Er enghraifft, os ydych chi’n darparu meddalwedd, beth yw’r risg y bydd data cwsmeriaid yn cael ei lygru, a beth fyddai’r canlyniadau? Os ydych chi’n darparu cynnyrch mecanyddol, beth sy’n digwydd os yw’n torri i lawr, pa eiddo neu offer arall y gallai ei ddifrodi, a pha golledion y gallai eu hachosi i’r cwsmer ac i unrhyw drydydd parti?
Bydd deall y ffactorau hyn sy’n ymwneud â’r cynnyrch yn galluogi’r busnes i adnabod y prif risgiau cytundebol sy’n ymwneud â phrisio, talu, eiddo deallusol, gwarant ac atebolrwydd. Dyma pam ei bod yn bwysig, yn y cyfnod cyn gwneud cais neu cyn negodi, i gydweithio â’r timau cyllid a datblygu er mwyn deall y cynnyrch.