“Allwch chi ddim rheoli’r hyn nad ydych yn ei fesur.”
Mae contractau’n llwyddo neu’n methu ar sail perfformiad – ond yn rhy aml, mae’r mesur yn amwys neu’n anghyson.
Mae’r fframweithiau rheoli perfformiad gorau yn creu eglurder drwy:
✔️ Ddefnyddio DPAau SMART (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Perthnasol, Amserol)
✔️ Gydbwyso mesurau mewnol (proffidioldeb, adnoddau, cydymffurfiaeth) â rhai allanol (cyflawni, ansawdd, ymatebolrwydd)
✔️ Gynnwys rhwymedïau a chymhellion sy’n sbarduno atebolrwydd
✔️ Greu systemau rhybudd cynnar i adnabod risgiau cyn iddyn nhw waethygu
Nid ticio blychau yw rheoli perfformiad da. Mae’n ymwneud ag adeiladu ymddiriedaeth, gwella perthnasoedd ac adnabod cyfleoedd i arloesi a bod yn fwy effeithlon.
O’i wneud yn iawn, nid dim ond diogelu’r contract y mae – mae’n helpu’r ddwy ochr i ffynnu.
👉 Beth yw’r DPA neu’r mesur perfformiad mwyaf effeithiol rydych chi wedi’i ddefnyddio yn eich contractau?